Xerxes I, brenin Persia

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Xerxes I

Pumed brenin Ymerodraeth Persia oedd Xerxes I, brenin Persia, Hen Berseg: Xšayāršā, Groeg: Ξέρξης, Xérxēs (bu farw 465 CC).

Roedd Xerxes yn fab i Darius I, brenin Persia ac Atossa, merch Cyrus Fawr. Daeth yn frenin ar farwolaeth Darius yn 485 CC, a gorchfygodd wrthryfeloedd yn yr Aifft a Babilon. Yn 484 CC, dygodd o ddinas Babilon y ddelw aur o Bel (Marduk, a arweiniodd at wrthryfeloedd gan y Babiloniaid yn 484 CC a 479 CC.

Yn 480 CC, arweiniodd fyddin enfawr i wneud Groeg yn rhan o’r ymerodraeth. Roedd ei dad, Darius, wedi methu gwneud hyn ddeng mlynedd ynghynt, pan orchfygwyd ei fyddin gan yr Atheniaid ym Mrwydr Marathon. Roedd byddin Xerxes yn un enfawr; yn ôl Herodotus yn ddwy filiwn a hanner o wŷr, er nad yw haneswyr diweddar yn derbyn hyn. Ceisiodd byddin fechan o 300 o Spartiaid a 700 o Thespiaid dan arweiniad Leonidas, brenin Sparta, atal y Persiaid yn Thermopylae, lle roedd y ffordd tua’r de yn dilyn rhimyn cul o dir rhwng y mynyddoedd a’r môr. Bu ymladd am dri diwrnod a lladdwyd nifer fawr o’r Persiaid, ond yn y diwedd lladdwyd y Groegiaid i gyd pan ddangosodd bradwr i’r Persiaid lwybr trwy’r mynyddoedd a’u galluogodd i ymosod ar y Groegwyr o’r tu cefn.

Aeth y Persiaid ymlaen tuag Athen, lle roedd dadl a ddylent ymladd y Persiaid ar y tir ynteu ddibynnu ar eu llynges. Ar gyngor Themistocles, penderfynwyd gadael y ddinas a defnyddio’r llynges i ymladd y Persiaid. Cipiwyd a llosgwyd Athen gan y Persiaid, ond gorchfygwyd llynges Xerxes gan lynges Athen a’i cynghreiriaid ym Mrwydr Salamis. Dychwelodd Xerxes i Asia Leiaf, ond gadawodd Mardonius gyda byddin gref i ymladd y Groegiaid. Y flwyddyn ganlynol, gorchfygwyd a lladdwyd Mardonius gan fyddin o Roegiaid dan arweiniad Pausanias, brenin Sparta ym Mrwydr Plataea.

Cred rhai mai Xerxes yw'r cymeriad sy'n ymddangos yn y Beibl dan yr enw "Ahasfferus", enw sy'n tarddu o'r fersiwn Hebraeg o'i enw. Mae'n gymeriad yn Llyfr Esther, lle ceir ei hanes yn priodi Esther.

Olynwyd ef ar yr orsedd gan ei fab, Artaxerxes I.

Rhagflaenydd :
Darius I
Brenhinoedd Achaemenid Ymerodraeth Persia
Xerxes I
Olynydd :
Artaxerxes I