Xerxes I, brenin Persia - Wicipedia Xerxes I, brenin Persia Oddi ar Wicipedia Jump to navigation Jump to search Xerxes I Pumed brenin Ymerodraeth Persia oedd Xerxes I, brenin Persia, Hen Berseg: Xšayāršā, Groeg: Ξέρξης, Xérxēs (bu farw 465 CC). Roedd Xerxes yn fab i Darius I, brenin Persia ac Atossa, merch Cyrus Fawr. Daeth yn frenin ar farwolaeth Darius yn 485 CC, a gorchfygodd wrthryfeloedd yn yr Aifft a Babilon. Yn 484 CC, dygodd o ddinas Babilon y ddelw aur o Bel (Marduk, a arweiniodd at wrthryfeloedd gan y Babiloniaid yn 484 CC a 479 CC. Yn 480 CC, arweiniodd fyddin enfawr i wneud Groeg yn rhan o’r ymerodraeth. Roedd ei dad, Darius, wedi methu gwneud hyn ddeng mlynedd ynghynt, pan orchfygwyd ei fyddin gan yr Atheniaid ym Mrwydr Marathon. Roedd byddin Xerxes yn un enfawr; yn ôl Herodotus yn ddwy filiwn a hanner o wŷr, er nad yw haneswyr diweddar yn derbyn hyn. Ceisiodd byddin fechan o 300 o Spartiaid a 700 o Thespiaid dan arweiniad Leonidas, brenin Sparta, atal y Persiaid yn Thermopylae, lle roedd y ffordd tua’r de yn dilyn rhimyn cul o dir rhwng y mynyddoedd a’r môr. Bu ymladd am dri diwrnod a lladdwyd nifer fawr o’r Persiaid, ond yn y diwedd lladdwyd y Groegiaid i gyd pan ddangosodd bradwr i’r Persiaid lwybr trwy’r mynyddoedd a’u galluogodd i ymosod ar y Groegwyr o’r tu cefn. Aeth y Persiaid ymlaen tuag Athen, lle roedd dadl a ddylent ymladd y Persiaid ar y tir ynteu ddibynnu ar eu llynges. Ar gyngor Themistocles, penderfynwyd gadael y ddinas a defnyddio’r llynges i ymladd y Persiaid. Cipiwyd a llosgwyd Athen gan y Persiaid, ond gorchfygwyd llynges Xerxes gan lynges Athen a’i cynghreiriaid ym Mrwydr Salamis. Dychwelodd Xerxes i Asia Leiaf, ond gadawodd Mardonius gyda byddin gref i ymladd y Groegiaid. Y flwyddyn ganlynol, gorchfygwyd a lladdwyd Mardonius gan fyddin o Roegiaid dan arweiniad Pausanias, brenin Sparta ym Mrwydr Plataea. Cred rhai mai Xerxes yw'r cymeriad sy'n ymddangos yn y Beibl dan yr enw "Ahasfferus", enw sy'n tarddu o'r fersiwn Hebraeg o'i enw. Mae'n gymeriad yn Llyfr Esther, lle ceir ei hanes yn priodi Esther. Olynwyd ef ar yr orsedd gan ei fab, Artaxerxes I. Rhagflaenydd : Darius I Brenhinoedd Achaemenid Ymerodraeth Persia Xerxes I Olynydd : Artaxerxes I Wedi dod o "https://cy.wikipedia.org/w/index.php?title=Xerxes_I,_brenin_Persia&oldid=10778913" Categorïau: Marwolaethau 465 CC Ymerodraeth Persia Llywio Offer personol Heb fewngofnodi Sgwrs Cyfraniadau Crëwch gyfrif Mewngofnodi Parthau Erthygl Sgwrs Amrywiolion Golygon Darllen Golygu Golygu cod y dudalen Gweld yr hanes More Chwilio Panel llywio Hafan Porth y Gymuned Y Caffi Materion cyfoes Newidiadau diweddar Erthygl ar hap Cymorth Rhoi Blwch offer Beth sy'n cysylltu yma Newidiadau perthnasol Tudalennau arbennig Dolen barhaol Gwybodaeth am y dudalen Cyfeiriwch at yr erthygl hon Eitem Wikidata Argraffu/allforio Llunio llyfr Lawrlwytho ar ffurf PDF Fersiwn argraffu Mewn prosiectau eraill Wikimedia Commons Ieithoedd eraill Afrikaans Alemannisch العربية مصرى Asturianu Azərbaycanca تۆرکجه Беларуская Български Brezhoneg Bosanski Català Čeština Dansk Deutsch Ελληνικά English Esperanto Español Eesti Euskara فارسی Suomi Français Galego עברית हिन्दी Hrvatski Magyar Հայերեն Bahasa Indonesia Italiano 日本語 ქართული Қазақша 한국어 Kurdî Кыргызча Latina Lëtzebuergesch Lietuvių Latviešu Malagasy मराठी Bahasa Melayu Nederlands Norsk nynorsk Norsk bokmål Occitan Polski پنجابی پښتو Português Română Русский Scots Srpskohrvatski / српскохрватски Simple English Slovenčina Slovenščina Српски / srpski Svenska தமிழ் ไทย Tagalog Türkçe Українська اردو Oʻzbekcha/ўзбекча Tiếng Việt Winaray 吴语 Yorùbá 中文 Golygu cysylltau Newidiwyd y dudalen hon ddiwethaf ar 26 Medi 2020, am 13:43. Mae testun y dudalen ar gael dan drwydded Creative Commons Attribution-ShareAlike; gall fod telerau ychwanegol perthnasol. Gweler Telerau Defnyddio'r Drwydded am fanylion pellach. Polisi preifatrwydd Ynglŷn â Wicipedia Gwadiadau Golwg symudol Datblygwyr Statistics Cookie statement